SL(6)118 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 23) 2021

Cefndir a Diben

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 (“Deddf 1984”) yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i nifer neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Gwneir Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 23) 2021 (“y Rheoliadau”) drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c) a 45F(2) o Ddeddf 1984 mewn ymateb i'r bygythiad i iechyd y cyhoedd a achosir gan nifer a lledaeniad COVID-19.

Mae’r Rheoliadau’n diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (“y prif Reoliadau”), gan gael effaith o 20 Rhagfyr 2021, er mwyn:

Gweithdrefn

Rheoliadau a wnaed yn gadarnhaol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Rhaid i'r Senedd gymeradwyo'r Rheoliadau o fewn 28 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd wedi’i diddymu neu ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gwnaed er mwyn iddynt barhau i gael effaith.

Materion technegol: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

 

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y pedwar pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn:

1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Nodwn gyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros unrhyw ymyrraeth bosibl â hawliau dynol. Yn benodol, nodwn y canlynol yn y Memorandwm Esboniadol:

“Er bod y prif Reoliadau, fel y’u diwygir gan y Rheoliadau hyn, yn cyffwrdd â hawliau unigol o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998 a’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, mae’r Llywodraeth o’r farn bod modd eu cyfiawnhau er mwyn atal lledaeniad clefydau heintus a/neu fod hawl i wneud yr ymyriad ar y sail ei fod yn ceisio cyflawni nod dilys, sef diogelu iechyd y cyhoedd, a’u bod yn gymesur.

Mae Erthygl 5 (yr hawl i ryddid), Erthygl 8 (yr hawl i barch at fywyd preifat a theuluol), Erthygl 9 (rhyddid meddwl, cydwybod a chrefydd), Erthygl 11 (rhyddid i ymgynnull a chymdeithasu) ac Erthygl 1 o’r Protocol Cyntaf (diogelu eiddo) yn cael eu cyffwrdd gan y prif Reoliadau.

Mae pob un o’r rhain yn hawliau amodol, sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru ymyrryd ag arfer yr hawliau os oes angen gwneud hynny mewn cymdeithas ddemocrataidd er budd diogelwch y cyhoedd neu er mwyn diogelu iechyd.  Rhaid cyfiawnhau’r holl gyfyngiadau a gofynion o’r fath ar y sail mai eu bwriad yw cyflawni nod cyfreithlon, sef diogelu iechyd y cyhoedd, a’u bod yn gymesur.  Hefyd, mae angen cydbwyso unrhyw ymyrraeth â’r hawliau hyn â rhwymedigaethau cadarnhaol y wladwriaeth o dan Erthygl 2 (yr hawl i fywyd). Mae addasu’r cyfyngiadau a’r gofynion o dan y prif Reoliadau drwy’r Rheoliadau hyn yn ymateb cymesur i ledaeniad y coronafeirws.  Mae'n cydbwyso'r angen i gynnal ymateb priodol i'r bygythiad a berir gan y coronafeirws yn erbyn hawliau unigolion a busnesau, mewn modd sy'n parhau'n gymesur â'r angen i leihau cyfradd trosglwyddo'r coronafeirws, gan ystyried y dystiolaeth wyddonol.”

2. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Nodwn na fu unrhyw ymgynghori ffurfiol ar y Rheoliadau hyn. Yn benodol, nodwn y paragraffau a ganlyn yn y Memorandwm Esboniadol:

“O ystyried y bygythiad parhaus sy’n deillio o’r coronafeirws a’r angen am ymateb iechyd cyhoeddus prydlon, nid oes ymgynghoriad cyhoeddus wedi’i gynnal mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Serch hynny, ymgysylltwyd â rhanddeiliaid amrywiol gan gynnwys Is-adran Cydraddoldebau Llywodraeth Cymru.”

3. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Nodwn nad oes asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb ar gyfer y Rheoliadau a gofynnwn i Lywodraeth Cymru esbonio pa drefniadau y mae wedi eu gwneud, mewn perthynas â'r Rheoliadau, i gyhoeddi adroddiadau o’r asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb yn unol â rheoliad 8(1)(d) o Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011.

Er y nodir bod y Memorandwm Esboniadol yn nodi bod asesiadau cryno o'r effaith yn cael eu paratoi a fydd yn cynnwys effeithiau sy'n ymwneud â gweithio gartref, nid yw'n eglur a fydd y rhain yn cynnwys asesiad o effaith ar gydraddoldeb ac, beth bynnag, nid ydynt ar gael i'r dinesydd ar hyn o bryd at ddibenion asesu effaith y darpariaethau newydd sy'n cael eu cyflwyno gan y Rheoliadau ar gydraddoldeb. 

4. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Y tu hwnt i’r datganiad a ganlyn, nid yw’r Memorandwm Esboniadol yn nodi nac yn cynnwys unrhyw gyfeiriadau penodol at y dystiolaeth y mae Llywodraeth Cymru yn dibynnu arni wrth wneud darpariaeth o dan y Rheoliadau:

“Mae Gweinidogion Cymru o’r farn bod y cyfyngiadau a’r gofynion sydd wedi’u nodi yn y prif Reoliadau, fel y’u diwygir gan y Rheoliadau hyn, yn angenrheidiol ac yn gymesur fel ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad presennol a berir gan y coronafeirws, yn enwedig y cynnydd cyflym mewn achosion Omicron.”

Nodwn, fodd bynnag, y canlynol yn natganiad ysgrifenedig y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS ar 17 Rhagfyr 2021:

“Yn yr adolygiad diwethaf o’r rheoliadau coronafeirws ar 9 Rhagfyr, dywedais y byddwn yn newid o drefn adolygu bob tair wythnos i drefn wythnosol i fod yn siŵr fod gennym y mesurau cywir yn eu lle i gadw Cymru’n ddiogel wrth i’r amrywiolyn omicron ddod ar ein gwarthaf.

Mae’r amrywiolyn wedi cyrraedd Cymru. Mae’n fwy heintus ac yn lledaenu’n gyflym.

………

Mae’r nifer sydd wedi’u heintio gan yr amrywiolyn omicron yn cynyddu bob dydd yng Nghymru – ac yng ngweddill y Deyrnas Unedig. Erbyn diwedd y mis, fwy na thebyg, omicron fydd y ffurf fwyaf cyffredin ar y feirws. Rydym yn dal i ddysgu amdano. Ond mae popeth rydym yn ei wybod yn awgrymu bod sefyllfa ddifrifol iawn o’n blaenau.”

O gofio'r ddyletswydd statudol ychwanegol y mae'r Rheoliadau yn ei gosod o dan reoliad newydd 18B, yn enwedig creu trosedd yn rheoliad 42A newydd, byddem yn ddiolchgar pe gallai Llywodraeth Cymru nodi'r dystiolaeth berthnasol sy'n cefnogi'r tynhau sylweddol o ran y cyfyngiad ar weithio gartref ar hyn o bryd.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb oddi wrth Llywodraeth Cymru mewn perthynas â phwyntiau 3 a 4 uchod yn unig.

Trafodaeth y Pwyllgor

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn yn ei gyfarfod ar 10 Ionawr 2022 ac mae'n cyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd uchod.